$SCRIPT_NAME (string) = /index.php
$app_name (string) = callable
$sitename (string) = RHAG
$content_obj (object of type: Content) = {}
$content_id (string) = 56
$page_id (string) = 56
$page_alias (string) = newyddion
$lang (string) = en_CY
$encoding (string) = utf-8
$lang_extra (string) =
$lang_parent (string) = cy
$lang_locale (string) = en_CY
$lang_dir (string) = ltr
$canonical (string) = https://rhag.cymru/news/9/3/Dileu-Cymraeg-Ail-Iaith-heb-gyllid-digonol-ni-fydd-modd-cyrraedd-y-nod
$actionid (string) = cntnt01
$actionparams (array) = [
   .articleid (integer) = 9
   .returnid (string) = 56
   .junk (string) = Dileu-Cymraeg-Ail-Iaith-heb-gyllid-digonol-ni-fydd-modd-cyrraedd-y-nod
   .action (string) = defaulturl
   .inline (string) =
   .module (string) = News
]
$returnid (string) = 56
$actionmodule (string) = News
$mod (object of type: News) = {}
$root_lang (string) = cy

Dileu Cymraeg Ail Iaith: heb gyllid digonol, ni fydd modd cyrraedd y nod

Sep 11, 2019

Mae RhAG wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd Cymraeg ail iaith yn cael ei ddileu, ond yn galw am drawsnewid y drefn bresennol o gyllido hyfforddiant i athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae RhAG wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd Cymraeg ail iaith yn cael ei ddileu, ond yn galw am drawsnewid y drefn bresennol o gyllido hyfforddiant i athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Mae cyhoeddiad y Gweinidog yn arwyddocaol, ond y gwir amdani yw fod angen chwistrelliad sylweddol o gyllid i hyfforddi'r athrawon a'r gweithlu ehangach er mwyn gwireddu'r polisi hwn.

"Does dim cynllun cydlynol ar hyn o bryd i hyfforddi athrawon newydd. Mae angen strategaeth hir dymor ar fyrder, fydd yn amlinellu cynllun gweithredu ac yn gosod targedau tymor byr a chanolig er mwyn cynhyrchu’r gweithlu sydd ei angen. Mae angen hefyd amserlen a strategaeth fanwl o ran cyflwyno'r newidiadau mewn ysgolion unigol.

"Ymhellach at hynny, mae'n rhaid sicrhau na fydd hyn yn arwain mewn unrhyw ffordd at danseilio neu wanychu ysgolion cyfrwng Cymraeg - yr unig fodel cydnabyddedig sy’n llwyddo i roi dwy iaith yn gyfartal i bawb. Dwyieithrwydd yw’r canlyniad a fynnwn: ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig yr amodau gorau i gyflawni hynny. Rhaid creu sefyllfa lle bydd nifer digonol o athrawon sy'n medru cyflwyno'r Gymraeg fel pwnc ynghyd â phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Felly rydym yn galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen, er mwyn mynd ati o ddifrif i wireddu'r weledigaeth hon."

Diwedd