Pan ddaw'r amser i chi wneud cais i'ch plentyn fynd i'r ysgol yng Nghymru, cofiwch fod tri chyfnod pwysig. 1. Cais i'r dosbarth Meithrin - 3 oed 2. Cais i'r dosbarth Derbyn - 5 oed 3. Cais i'r Ysgol Uwchradd - 11 oed Dosbarth Meithrin Bydd rhai rhieni'n dewis gwneud cais i'w plant fynd i'r dosbarth Meithrin yn yr ysgol neu dderbyn lle Codi'n Dair mewn lleoliad arall fel Cylch Meithrin neu feithrinfa breifat yn yr awdurdod lleol. Mae gan bob Awdurdod Lleol bolisi eu hunain ar gyfer gwneud cais ac y mae'n werth i chi ddarllen y llyfryn Mynediad i'r Ysgol yn eich Sir chi er mwyn gwybod gymaint o fanylion ag y bod modd am eich ysgol Gymraeg lleol chi. Mae manylion am y cyfnod hwn hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yma. Dosbarth Derbyn Mae angen gwneud cais eto wedyn i'r dosbarth Derbyn ac y mae hyn ar gyfer y flwyddyn y bydd eich plentyn yn troi'n 5 oed. Ysgol Uwchradd Bydd eich ysgol gynradd yn rhan o glwstwr ysgol uwchradd ac felly bydd llawer o ddigwyddiadau yn digwydd i bontio rhwng yr ysgol gynradd a'r uwchradd. Mae'r digwyddiadau hyn fel arfer yn cychwyn tua blwyddyn 4. Bydd angen i chi wneud cais ar gychwyn blwyddyn 6 ar gyfer yr ysgol Uwchradd. Eto, mae'r broses hon yn dod o dan bolisi awdurdodau lleol. Mae dolen i wefannau holl ardal Addysg holl Awdurdodau Lleol Cymru ar ein gwefan ni os nad ydych wedi eu canfod yn barod.