Addysg Gymraeg yn Abertawe: twf o 800 disgybl ymhen deng mlynedd
Mar 19, 2019
Mae RhAG Abertawe’n llawenhau bod y Sir am godi dau adeilad newydd sbon i ehangu addysg Gymraeg yn y ddinas.
Mae RhAG Abertawe’n llawenhau bod y Sir am godi dau adeilad newydd sbon i ehangu addysg Gymraeg yn y ddinas. Bydd y naill ar gyfer Ysgol Tirdeunaw yn cael ei godi ar dir Ysgol Gyfun Bryn Tawe, gyda lle i 525 o blant, a’r llall, ar gyfer Ysgol Tan-y-lan, â lle i 420 o blant yn ardal y Clas.
Mae hyn yn dipyn o gynnydd, a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu nifer y disgyblion mewn addysg Gymraeg gan ryw 800 ymhen deng mlynedd. Bu RhAG yn pwyso ar y Sir am sawl blwyddyn, ac yn y pen draw, roedd hyn yn gyfaddawd.
Roedd RhAG am gadw Ysgol Tirdeunaw ar ei safle presennol, a phwysleiswyd hyn yn y cyfarfodydd tymhorol a gynhaliwyd gyda swyddogion y sir. Roedd Tirdeunaw wedi cychwyn gyda deunaw o blant, ac mewn ardal o dai cyngor. Roedd rhai o’r farn na fyddai byth yn llwyddo, ond tyfodd yn gyflym, gyda 450 o blant yn ei mynychu. Roedd hyn yn dod â’r Gymraeg yn ôl i ardal a’i collodd – ardal Treboeth, a’i chysylltiadau â Gwyrosydd. Collwyd y frwydr i gadw’r ysgol ar ei safle, gwaetha’r modd. Mae perygl yr defnyddir y safle ar gyfer addysg Saesneg maes o law.
Roedd yn amlwg bod angen safle newydd i Tan-y-lan, gan mai lle i 115 sydd yno yn awr. Doedd cynllun datblygu addysg Gymraeg y sir ddim yn ddigon uchelgeisiol, ond diolch i ymyrraeth Eluned Morgan a’r Llywodraeth a phwysau RhAG, argyhoeddwyd y sir bod angen cynyddu. Roedd RhAG o blaid cael ysgol Gymraeg yn agos i ganol Treforys, ar dir rhwng Treforys ac Ynysforgan. Gwahanol oedd barn y Sir. Bydd yr ysgol newydd ar y Clas, ardal tai cyngor, ymhellach o ganol Treforys. Dyw hyn ddim yn ddelfrydol, ond fel gyda phob ysgol Gymraeg arall a agorwyd yn Abertawe, bydd yn sicr o lwyddo.
Mae’r newidiadau hyn yn golygu y bydd Ysgol Tan-y-lan yn mynd â thipyn o ddalgylch ysgol bresennol Tirdeunaw, a bydd ysgol Tirdeunaw yn mynd yn nes at Gwmbwrla a Threfansel, sydd ar hyn o bryd yn bell o gyrraedd hwylus i ysgol gynradd Gymraeg.
Roedd cynigion y Sir ar gyfer Ysgol Gymraeg Felindre’n siom. Bu RhAG ar hyd y blynyddoedd yn dadlau o blaid cadw’r ysgol, ac mewn ymgynghoriad ddiwedd 2018 dadleuodd RhAG bod angen cadw’r ysgol ar agor nes bod tai newydd yn cael eu codi yn y cyffiniau. Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, cysylltodd RhAG â phob ysgol gynradd Gymraeg, ac chael gwybod nad oedd yn Ysgol Felindre ond 12 o blant.
Fodd bynnag, dim ond tri o’r plant oedd yn byw yn nalgylch Felindre. Roedd pump yn byw’n llawer nes i Ysgol Gymraeg Gellionnen, a’r gweddill o wahanol rannau o Abertawe. Ar ôl ymgynghori pellach, daethpwyd i’r casgliad nad oedd modd cyfiawnhau cadw ysgol ar agor i 3 o blant, a darparu addysg gynradd hyfyw a chyflawn i’r nifer yma. Mae’r nifer fach, mae’n debyg, yn adlewyrchu newid yn natur ddemograffig ac ieithyddol y pentre ar hyd y blynyddoedd, Cynigiodd RhAG bod yr ysgol yn cael ei chadw ar gyfer dibenion addysg Gymraeg, gan gynnwys fel canolfan addysg feithrin, hwyrddyfodiaid neu ganolfan addysg gyfeirio. Mae’n debyg y bydd y sir yn gwrthod y cynigion hyn.
Diwedd