Llythyr agored: mudiadau ac enwogion yn galw am Ysgol Gymraeg newydd i'r Barri
Jan 28, 2020
Mae mudiadau cenedlaethol ac enwogion o Fro Morgannwg wedi llofnodi llythyr agored sy'n galw ar Aelodau Cabinet Cyngor Bro Morgannwg "i fantesio ar gyfle euraid" o ran twf Addysg Gymraeg yn y Barri.
Mae mudiadau cenedlaethol ac enwogion o Fro Morgannwg wedi llofnodi llythyr agored sy'n galw ar Aelodau Cabinet Cyngor Bro Morgannwg "i fantesio ar gyfle euraid" o ran twf Addysg Gymraeg yn y Barri.
Mae'r llythyr wedi'i arwyddo gan nifer o enwogion sy'n cynnwys, Ian "H" Watkins o Steps, Caryl Parry Jones, Angharad Mair ac ystod eang o fudiadau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg yn lleol a chenedlaethol.
Bydd adroddiad yn mynd gerbron cabinet Cyngor Bro Morgannwg yfory - 12 Rhagfyr - (sydd eisoes wedi ei ohirio ddwywaith), gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad ym mis Ionawr ar yr ysgol newydd ddaw yn sgil datblygiad tai sylweddol yn ardal y Glannau yn y Barri.
Meddai Mark Bowen, rhiant o'r Barri sydd wedi arwain yr ymgyrch ac sy'n aelod o RhAG ym Mro Morgannwg,
"Mae Achos Prawf arwyddocaol o safbwynt targed 2050 ar fin cyrraedd croesffordd bwysig yn y Barri.
"Nid oes dwywaith y bydd cefnogwyr addysg cyfrwng Cymraeg ac yn wir Llywodraeth Cymru yn dysgu llawer o'r penderfyniad hwn. Ar hyn o bryd, mae llwyddiant y polisi yn dibynnu i raddau helaeth ar benderfyniadau a wneir gan Awdurdodau Lleol a dyna pam fod yr Achos Prawf hwn mor bwysig i gefnogwyr Addysg Gymraeg a'r iaith yn gyffredinol.
"Os y dewisir i glustnodi’r adeilad newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd cam mawr tuag at gyrraedd targed allweddol Llywodraeth Cymru ac I gynyddu nifer y lleoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn y Sir gan 10%, ac yn ardal y Barri gan bron i 17%.
"Os na wneir hynny, bydd cyfle amhrisiadwy i godi proffil addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan orllewinol y Barri (gan gynnwys Ynys y Barri) yn cael ei golli. Yn yr un modd, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod gagendor sylweddol rhwng polisïau cenedlaethol uchelgeisiol a gweithredu’r polisi hwnnw ar lawr gwlad.
"Bydd hynny’n canu clychau o ran diffyg hygrededd y polisi ac yn codi’r cwestiwn syflaenol: a yw cyrraedd Miliwn o siaradwyr wir yn flaenoriaeth gan lywodraeth leol a chanol? Bydd achos Ysgol y Glannau yn brawf pwysig o’r ymrwymiad hwnnw."
Diwedd
Nodiadau
Cefndir yr achos yw fod datblygiad tai sylweddol yn cael ei godi yn ardal y Glannau yn y Barri, a fydd yn y pen draw, yn darparu tua 2000 o gartrefi newydd. Mae tir wedi ei neilltuo ar gyfer ysgol gynradd newydd i'w agor ym mis Medi 2019. Yn y lle cyntaf, byddai hyn yn debygol o fod yn ysgol gyda 210 o leoedd, ond yn hollbwysig, gyda’r potensial i gynyddu i 420. Beth sy’n ansicr ar hyn o bryd yw cyfrwng iaith yr ysgol arfaethedig newydd.
LLYTHYR AGORED I AELODAU CABINET CYNGOR BRO MORGANNWG
Achos Prawf Arwyddocaol ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn y Barri
Annwyl Aelodau Cabinet
Bydd polisi Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei brofi ym Mro Morgannwg yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rhagwelir y byddwch chi, fel aelodau'r cabinet, yn cymryd penderfyniad pwysig iawn yn fuan ar gyfrwng iaith yr ysgol newydd arfaethedig a fydd yn cael ei hadeiladu
fel rhan o ddatblygiad y Glannau yn y Barri.
Yn wir, bydd hwn yn brawf pwysig, nid yn unig o sut y mae cynghorau lleol a chynllunwyr yn gweld eu rôl wrth weithredu polisi 2050, ond o ran dangos ymrwymiad gwirioneddol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.
Felly, rydym yn galw arnoch i fanteisio ar y cyfle euraid hwn ac i ddynodi'r ysgol newydd a ddaw yn sgil datblygiad y Glannau yn un cyfrwng Cymraeg.
Byddai hyn yn caniatáu i Ysgol Sant Baruc gael ei adleoli i adeilad sy’n addas a phwrpasol ac yn sicrhau bod holl blant y Barri o fewn pellter cerdded ysgol gynradd Gymraeg, gan gynnwys plant Ynys y Barri, a hynny am y tro cyntaf erioed. Byddai hyn hefyd yn gwneud cyfraniad mawr tuag at darged Llywodraeth Cymru 2030 i gynyddu lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg o draean.
Dylai’r iaith Gymraeg fod yn elfen canolog o ddatblygiadau tai newydd; mae hon yn eiliad dyngedfennol i’r Barri a bydd yn gosod cynsail arwyddocaol o ran datblygiadau trefol eraill ledled Cymru.
Rydym yn eich annog yn frwd i achub ar y cyfle hwn.
Caryl Parry Jones
Angharad Mair
Rhodri Owen
Ian “H” Watkins o Steps
Eleri Siôn
Eric Thomas, Cadeirydd Corff Llywodraethol, Ysgol Sant Baruc
Robert Evans, Cadeirydd Corff Llywodraethol, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Cronfa Glyndŵr
CYDAG – Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg
Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Cymdeithas yr Iaith
Cymdeithas Cymrodorion y Barri
Mudiad Meithrin
Lleucu Haf Wiliam, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Fro Morgannwg
Neil McEvoy AC, Canol De Cymru
Rhieni dros Addysg Gymraeg