$SCRIPT_NAME (string) = /index.php
$app_name (string) = callable
$sitename (string) = RHAG
$content_obj (object of type: Content) = {}
$content_id (string) = 56
$page_id (string) = 56
$page_alias (string) = newyddion
$lang (string) = en_CY
$encoding (string) = utf-8
$lang_extra (string) =
$lang_parent (string) = cy
$lang_locale (string) = en_CY
$lang_dir (string) = ltr
$canonical (string) = https://rhag.cymru/news/24/3/Cyngor-CNPT-yn-bygwth-lladd-addysg-Gymraeg-yn-y-Sir
$actionid (string) = cntnt01
$actionparams (array) = [
   .articleid (integer) = 24
   .returnid (string) = 56
   .junk (string) = Cyngor-CNPT-yn-bygwth-lladd-addysg-Gymraeg-yn-y-Sir
   .action (string) = defaulturl
   .inline (string) =
   .module (string) = News
]
$returnid (string) = 56
$actionmodule (string) = News
$mod (object of type: News) = {}
$root_lang (string) = cy

Cyngor CNPT yn bygwth lladd addysg Gymraeg yn y Sir

Jun 18, 2019

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi beirniadu'n chwyrn gynigion gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gynyddu ffïoedd cludiant i ddisgyblion yn y sir.

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi beirniadu'n chwyrn gynigion gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gynyddu ffïoedd cludiant i ddisgyblion yn y sir.

Mae'r Cyngor wrthi'n ymgynghori ar hyn o bryd i gynyddu'r gost i £390 y flwyddyn ar gyfer disgyblion ôl 16 (£100 ar hyn o bryd) yn ogystal â thynnu gwarant am sedd o Fedi 2020 ymlaen.

Nôl yn 2013, cynhaliodd Cwmni Iaith Hafan, ar y cyd â RhAG, arolwg ymysg rhieni i fesur effaith cyflwyno'r ffïoedd presennol. Roedd y prif gasgliadau, sy'n dal i fod yn berthnasol, yn nodi'r canlynol:

Byddai codi ffïoedd am gludo disgyblion 16+ i Ysgol Gyfun Ystalyfera’n debygol o ddod ag addysg 16+ hyfyw yno i ben;
Byddai codi tâl am gludiant yn effeithio’n anghymesur ar rai sy’n derbyn addysg Gymraeg ôl 16 yn y sir;
Mae codi tâl am gludiant ysgol yn mynd i gosbi’r llai cefnog yn fwy na neb, a pheri na fydd disgyblion o gefndiroedd tlotach yn gallu parhau ag addysg Gymraeg;
Gan fod addysg Saesneg 16+ yn o fewn cyrraedd llawer haws i’r rhan fwyaf o’r disgyblion, mae codi tâl i fynd i addysg Gymraeg yn gosod addysg Gymraeg o dan anfantais amlwg.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlethol RhAG,

"Mae'n sefyllfa sy'n gwbl anghrediniol. Dyma sir sydd wedi buddsoddi £40miliwn yn ddiweddar i ehangu a gwella darpariaeth addysg Gymraeg, ond sydd wedyn yn mynd ati i danseilio hynny gyda'r cynnig dan sylw. Does dim dwywaith y byddai gweithredu'r polisi hwn yn ergyd farwol i'r 6ed dosbarth yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ac addysg Gymraeg yn gyffredinol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

"Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i drefnu cludiant i ysgolion gyda’r nod o hybu addysg Gymraeg. Byddai’r cynnig a drafodir yn awr yn cael effaith i’r gwrthwyneb, ac yn andwyol iawn i addysg Gymraeg. Mae'n amlwg nad yw'r sir wedi cynnal asesiad ystyrlon i fesur effaith y polisi hwn ar ddisgyblion a theuluoedd o safbwynt y Gymraeg nac o safbwynt cydraddoldeb.

"Ymhellach at hynny, mae disgwyl i bob sir yn awr i fynd ati i ysgogi'r galw am addysg Gymraeg. Mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar hyn o bryd i newid y rheoliadau a fyddai'n cael gwared ar fesur y galw ac yn symud at drefn o osod targedau twf. Mae'r cynnig hwn yn milwrio yn erbyn hyn oll."

"Gwyddom bod siroedd eraill, gan gynnwys Casnewydd a Mynwy, sy'n codi tâl afresymol am gludiant i addysg Gymraeg. Ac mae nifer cynyddol o awdurdodau lleol yn adolygu eu polisïau cludiant gyda golwg i godi ffïoedd sy'n rhwym o osod rhwystrau i addysg Gymraeg. Felly, rydym yn galw ar Kirsty Williams a Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar fyrder trwy gynnal adolygiad o'r holl Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg - a chymryd camau priodol - i sicrhau bod addysg Gymraeg yn cael ei hybu trwy bolisïau cludiant, yn unol â gofynion Mesur 2008."

Diwedd

Nodiadau

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.cymru