Sut y mae RhAG yn gweithio?
Hanfod RhAG ers y cychwyn yw cefnogi rhieni a gwarchodwyr wrth iddynt fynd ar y daith gyda’u plant drwy Addysg Gymraeg a thu hwnt. Mae’r cyfnod yn cychwyn cyn geni’r plentyn, gyda’r gwaith hyrwyddo o fewn y sector cyn geni a'r blynyddoedd cynnar, ac fe gydweithiwn gyda rhanddeiliaid yn gadarnhaol ac yn rhagweithiol i sicrhau bod mynediad at Addysg Gymraeg ar gael i bawb sydd yn ei ddymuno.
Drwy’r gwaith hwn yr ydym hefyd yn gweithio er mwyn sicrhau bod mwy o ysgolion Cymraeg yn agor ar hyd a lled Cymru fel bod y galw’n codi. Cydweithiwn yn agos gydag ystod eang o randdeiliaid - yn ysgolion, Awdurdodau Lleol, Mentrau Iaith, consortia addysg, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin, darpariaethau gofal preifat i enwi dim ond rhai.
Gweithiwn hefyd gyda rhieni'n uniongyrchol i'w cefnogi pan fo achosion penodol yn codi. Gwnawn hyn drwy gynghori a chynrychioli uniongyrchol.
Mae rhwydwaith o wirfoddolwyr ar draws Cymru, yn rhieni, yn ofalwyr ac yn gyfeillion i Addysg Gymraeg, yn cynrychioli’r mudiad drwy amrywiaeth o bwyllgorau a fforymau ac yn bwydo yn ôl i bwyllgor rheoli cenedlaethol. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni fel mudiad ac rydym yn ddiolchgar i unrhyw wirfoddolwyr sydd yn fodlon ein cynorthwyo gydag achosion penodol mewn ardaloedd ar hyd a lled Cymru.