Cwricwlwm newydd i Gymru: ergyd farwol i addysg Gymraeg?
May 4, 2019
Byddai gwireddu cynnig Llywodraeth Cymru i wneud dysgu’r Saesneg yn orfodol ym mhob darpariaeth meithrin ac ysgol a gyllidir yn ergyd farwol i addysg Gymraeg.
Byddai gwireddu cynnig Llywodraeth Cymru i wneud dysgu’r Saesneg yn orfodol ym mhob darpariaeth meithrin ac ysgol a gyllidir yn ergyd farwol i addysg Gymraeg.
Dyma yw ymateb RhAG yn dilyn cyhoeddi'r Papur Gwyn ar y cwricwlwm newydd, ‘Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Trawsnewidiol’.
Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,
"Byddai gweithredu'r cymal hwn yn gwbl ddinistriol i’r iaith, ac yn wir gallai arwain at dranc addysg Gymraeg. Mae'n syfrdanol bod y fath gynnig wedi ei gynnwys yn y Papur terfynol.
"Mae angen i’r Gweinidog ddeall - ac yn wir, fe ddylai fod yn ymwybodol eisoes - mai yn y dosbarthiadau meithrin a’r ysgol mae plant o deuluoedd di-Gymraeg yn cael y seiliau angenrheidiol yn y Gymraeg. Ym mhob cylch arall o’u bywyd y Saesneg sydd drech. Rhaid diogelu'r cylch hwn os ydym am sicrhau bod ein plant yn caffael yr iaith ac yn dod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae ymchwil rhyngwladol sydd wedi'i hen sefydlu a'i gydnabod yn cefnogi hyn."
Yn ôl Tim Pearce, rhiant a symudodd o Loegr i fyw yn y Barri,
"O wybod pa mor gyffredin yw dwyieithrwydd ar draws y byd, pan symudon ni i fyw i Gymru, gwelson ni gyfle gwych mewn addysg Gymraeg. Efallai bod pob rhiant sydd heb brofiad o addysg Gymraeg yn gofidio ar y dechrau wrth weld y plant yn canolbwyntio ar eu Cymraeg yn unig. Nid oes angen pryderu, fodd bynnag. Maen nhw'n meistroli eu Saesneg yn nes ymlaen llawn cystal â'r plant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, os nad yn well. Mae ein plant ni wedi llwyddo yn eu haddysg ac eu bywydau proffesiynol, a dwyieithrwydd yn gefn gwerthfawr iddynt."
Ychwanegodd Wyn Williams,
"Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad yn rhyngwladol ym maes trochi ieithyddol a gwledydd eraill yn edrych arnom ni fel enghraifft o arfer dda. Nid oes unrhyw amheuaeth bod y cynnig hwn yn milwrio yn erbyn holl bolisïau'r Llywodraeth i ehangu addysg Gymraeg dros y degawd diwethaf a byddai'n tanseilio'r nod cenedlaethol o gael Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, heb sôn am gyfraniad a thwf aruthrol y mudiad addysg Gymraeg dros y 70 mlynedd diwethaf. Byddai'n gamgymeriad difrifol pe bai Llywodraeth Cymru yn dewis dilyn y llwybr hwn.
"Rhaid gwrthwynebu hyn ar bob cyfrif, a phwyswn yn daer ar y Gweinidog Addysg i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnu ar y cynnig yn ddioed."
Diwedd