Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn ymgyrchu dros ragor o ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
Jul 17, 2019
Galw ar Gabinet RhCT i ddangos eu bod o ddifrif am dwf addysg Gymraeg ym Mhontypridd
Galw ar Gabinet RhCT i ddangos eu bod o ddifrif am dwf addysg Gymraeg ym Mhontypridd
LLYTHYR AGORED I AELODAU CABINET CYNGOR BRO MORGANNWG
MAE RhAG wedi galw ar Gabinet Cyngor RhCT i gymryd safiad clir er mwyn diogleu darpariaeth addysg Gymraeg yn ngogledd Pontypridd wrth iddynt ymgynnull yr wythnos hon.
Daw hyn wrth i'r aelodau gwrdd Ddydd Iau yma (18 Gorffennaf) i roi sêl bendith terfynol ar gynlluniau dadleuol i ailwampio darpariaeth addysg ym Mhontypridd, gan gynnwys cynnig i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn ac adeiladu ysgol newydd sbon ar safle presennol Heol-y-Celyn.
Meddai Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG,
"Mae gan Gabinet RhCT gyfle euraid i ddangos eu bod wedi gwrando o ddifrif ar bryderon rhieni ac ymgyrchwyr sydd wedi lleisio eu gwrthwynebiad yn chwyrn i'r cynigion hyn.
"Mae RhAG yn rhannu pryderon rhieni sy’n gofidio y bydd bwrw ymlaen â'r cynnig hwn yn cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg yng nghymunedau gogledd Pontypridd. Mae'r feddylfryd bresennol yn gwbl anghywir: ni ddylai cynghorau fod yn tynnu darpariaeth addysg Gymraeg o gymunedau lleol, ond yn hytrach fe ddylent dyfu ac ehangu'r ddarpariaeth honno ym mhob cymuned, fel y gall pob teulu gael mynediad hwylus i addysg cyfrwng Cymraeg o fewn pellter rhesymol.
"Does neb yn anghydweld bod y buddsoddiad gwerthfawr hwn i'w groesawu, ond mae gwersi o siroedd eraill wedi profi y gall gweithredu'r penderfyniad anghywir gael effaith andwyol ar sefydlogrwydd a thwf y ddarpariaeth. Byddai’n gwbl anfaddeuol syrthio i’r un fagl yn yr achos hwn.
"Dyma gyfle aelodau'r Cabinet i ddangos eu bod o ddifrif dros dwf y Gymraeg ym Mhontypridd ac i ymateb i ofidiau rhieni trwy gyflwyno opsiynau newydd a fyddai'n cadw darpariaeth yn lleol yng nghymunedau gogledd y dref.
"Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rhaid mynd â chymunedau RhCT - a gweddill Cymru - gyda ni ar hyd y daith, ac nid eu dieithrio oddi wrth y Gymraeg."
"Mae'r neges yn glir: ond ydy'r cynghorwyr yn gwrando? Pwyswn yn gryf arnynt i brofi hynny Ddydd Iau."
Diwedd