$SCRIPT_NAME (string) = /index.php
$app_name (string) = callable
$sitename (string) = RHAG
$content_obj (object of type: Content) = {}
$content_id (string) = 56
$page_id (string) = 56
$page_alias (string) = newyddion
$lang (string) = en_CY
$encoding (string) = utf-8
$lang_extra (string) =
$lang_parent (string) = cy
$lang_locale (string) = en_CY
$lang_dir (string) = ltr
$canonical (string) = https://rhag.cymru/news/23/3/Y-chwyldron-70-oed-dathlu-twf-addysg-Gymraeg-yng-Nghaerdydd
$actionid (string) = cntnt01
$actionparams (array) = [
   .articleid (integer) = 23
   .returnid (string) = 56
   .junk (string) = Y-chwyldron-70-oed-dathlu-twf-addysg-Gymraeg-yng-Nghaerdydd
   .action (string) = defaulturl
   .inline (string) =
   .module (string) = News
]
$returnid (string) = 56
$actionmodule (string) = News
$mod (object of type: News) = {}
$root_lang (string) = cy

Y chwyldro’n 70 oed: dathlu twf addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

Jun 19, 2019

Y chwyldro’n 70 oed: dathlu twf addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

 Y chwyldro’n 70 oed: dathlu twf addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

Annwyl Aelodau Cabinet Bydd polisi Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei brofi ym Mro Morgannwg yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rhagwelir y byddwch chi, fel aelodau'r cabinet, yn cymryd penderfyniad pwysig iawn yn fuan ar gyfrwng iaith yr ysgol newydd arfaethedig a fydd yn cael ei hadeiladu fel rhan o ddatblygiad y Glannau yn y Barri. Yn wir, bydd hwn yn brawf pwysig, nid yn unig o sut y mae cynghorau lleol a chynllunwyr yn gweld eu rôl wrth weithredu polisi 2050, ond o ran dangos ymrwymiad gwirioneddol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Felly, rydym yn galw arnoch i fanteisio ar y cyfle euraid hwn ac i ddynodi'r ysgol newydd a ddaw yn sgil datblygiad y Glannau yn un cyfrwng Cymraeg. Byddai hyn yn caniatáu i Ysgol Sant Baruc gael ei adleoli i adeilad sy’n addas a phwrpasol ac yn sicrhau bod holl blant y Barri o fewn pellter cerdded ysgol gynradd Gymraeg, gan gynnwys plant Ynys y Barri, a hynny am y tro cyntaf erioed. Byddai hyn hefyd yn gwneud cyfraniad mawr tuag at darged Llywodraeth Cymru 2030 i gynyddu lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg o draean. Dylai’r iaith Gymraeg fod yn elfen canolog o ddatblygiadau tai newydd; mae hon yn eiliad dyngedfennol i’r Barri a bydd yn gosod cynsail arwyddocaol o ran datblygiadau trefol eraill ledled Cymru. Rydym yn eich annog yn frwd i achub ar y cyfle hwn.

Caryl Parry Jones
Angharad Mair
Eric Thomas, Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Sant Baruc
Robert Evans, Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Cronfa Glyndŵr
CYDAG – Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg
Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Cymdeithas yr Iaith
Cymdeithas Cymrodorion y Barri
Mudiad Meithrin
Lleucu Haf Wiliam, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Fro Morgannwg
Neil McEvoy AC, Canol De Cymru
Rhieni dros Addysg Gymraeg
Rhodri Owen
Ian “H” Watkins o Steps
Eleri Siôn
 
-
I DDATHLU 70 mlynedd o Addysg Gymraeg yn y brifddinas, mae nifer o gynddisgyblion cynnar yr ysgol wreiddiol, sef Ysgol Gymraeg Caerdydd, wedi cynllunio gyda’r ysgolion presennol i orymdeithio drwy Gaerdydd fore Sadwrn Mehefin 22. Byddant yn ymgynnull wrth ochr Neuadd y Ddinas rhwng 9 a 10 y bore, ac am 10.00 bydd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, yn eu cyfarch ar gychwyn yr orymdaith. Byddant yn teithio drwy strydoedd y ddinas i Borth Gogleddol y Castell, lle byddant yn ymuno gyda Tafwyl wrth i’r w ^yl honno ddechrau am 11.00.

Cynrychiolir pob ysgol Gymraeg yn y ddinas yn yr Orymdaith, gyda chynddisgyblion Ysgol Gymraeg Caerdydd, a dyfodd yn fuan i fod yn Ysgol Bryntaf, yn arwain. Bydd yr ysgolion presennol yn dilyn yn nhrefn eu sefydlu, yn gyntaf Ysgol Melin Gruffydd, a sefydlwyd yn 1980. Bydd RhAG, y mudiad rhieni cenedlaethol sy’n ymgyrchu dros ymestyn ysgolion Cymraeg ledled Cymru, a’r Mudiad Meithrin, hefyd yn cymryd rhan. Wedi cerdded ar hyd strydoedd didraffig fel Heol y Frenhines a’r Aïs , bydd yr Orymdaith yn mynd i’r Castell ac yn cael ei chroesawu i Tafwyl gan Eluned Morgan AC, Barwnes Elái, sy’n weinidog dros y Gymraeg yn y Llywodraeth. Mae hithau’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gymraeg Glantaf. Bydd yr Orymdaith yn cefnogi targed llywodraeth y Senedd o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Meddai Iolo Walters ac Alwyn Evans, Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Cynllunio, mewn datganiad, “Y nod yw dathlu’r tyfiant anhygoel sydd wedi bod mewn ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd ers i ninnau fod ymlith y dyrnaid cyntaf o ddisgyblion. Mae ein hwyrion bellach yn drydedd cenhedlaeth i fynychu’r ysgolion Cymraeg hyn. Hefyd, mae’r Orymdaith yn gyfle i ddangos i rieni Caerdydd fod addysg cyfrwng-Cymraeg ar gael i’w plant ym mhob cornel o’r ddinas, beth bynnag yw iaith y cartref. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhieni hynny, y di-Gymraeg gymaint â’r Cymry Cymraeg, sydd oll â’u plant wedi elwa ar addysg Gymraeg, yn gorymdeithio gyda ni i gefnogi ysgolion eu plant. Hefyd, os ydych chi’n gyn-ddisgybl, dowch allan i gefnogi’ch hen ysgol chi, boed gynradd neu uwchradd!”

Ar 5 Medi 1949, agorodd Ysgol Gymraeg Caerdydd, yr ysgol gyntaf i ddarparu addysg cyfrwng Gymraeg yn y ddinas, mewn ystafell ddosbarth yn Ysgol Fodern y Bechgyn, Ninian Park, (safle bresennol Ysgol Gynradd Ninian Park). 19 o ddisgyblion a gofrestrwyd ar y diwrnod cyntaf. Bellach, mae bron 800 o ddisgyblion yn dechrau bob blwyddyn yn 17 Ysgol Gynradd Cymraeg presennol Caerdydd. Mae tair Ysgol Uwchradd yn ogystal, gyda’r angen wedi ei brofi’n barod am bedwerydd ysgol o fewn y 5 mlynedd nesaf.