Gwaddol yr Eisteddfod: twf Addysg Gymraeg ym Mhowys
Jul 17, 2019
MAE ymweliad Eisteddfod yr Urdd i Lanelwedd yr wythnos hon yn cynnig cyfle euraidd i adael gwaddol parhaol ar gyfer ffyniant y Gymraeg ym Mhowys.
MAE ymweliad Eisteddfod yr Urdd i Lanelwedd yr wythnos hon yn cynnig cyfle euraidd i adael gwaddol parhaol ar gyfer ffyniant y Gymraeg ym Mhowys.
Dyma yw galwad RhAG wrth bwyso ar y Cyngor i gydio yn y cyfle i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o’r Sir.
Mae arwyddion cadarnhaol eisoes ar droed gydag agor Ysgol Gynradd Y Trallwng Medi 2017 yn garreg filltir hanesyddol a llwyddiant digamsyniol Ysgol Dafydd Llwyd, yn y Drenewydd, yn brawf o’r galw cynyddol.
Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,
“Mae angen dybryd i ymestyn y Gymraeg i bob rhan o’r sir. Mae gormod o ardaloedd heb addysg Gymraeg o gwbwl ac mae angen unioni’r cam hwnnw.
“Bydd ehangu’r ddarpariaeth, trwy sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn torri’r cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru i gryfhau dwyieithrwydd a chyfrannu at y nod o gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn erbyn 2050.
“Mawr obeithiwn y gwelwn sawl datblygiad pwysig yn dwyn ffrwyth dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys agor ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Llandrindod, symud Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ar hyd y continwwm ieithyddol trwy gael gwared ar y ffrwd cyfrwng Saesneg a sefydlu ysgol uwchradd 2A yng ngogledd y sir.
“Mae’r galw a’r angen yn glir: rhaid cymryd camau pendant i sefydlu’r ddarpariaeth fydd yn bodloni hynny.
“Galwn felly ar y Cyngor i gofleidio gweledigaeth bellgyrhaeddol ar gyfer twf Addysg Gymraeg ac ar gyfer dyfodol hirdymor yr iaith Gymraeg yn y Sir.”