Wyn Williams, Penarth
Cadeirydd
Wedi gorffen prifysgol, gweithiodd Wyn yn Radio Ceredigion am dair blynedd cyn symud i Lundain, ble wnaeth gwrdd gyda'i wraig, a nawr ganddynt ddau o blant yn ysgolion Cymraeg Bro Morgannwg. Dychwelodd Wyn i Aberystwyth i gwblhau MA mewn Cynhyrchu Creadigol yn 2012, ac ers hynny mae wedi bod yn golygu, cyfieithu a chynhyrchu yn llawrydd dan yr enw 'Dai Lingual'. Mae ei ystod o brosiectau wedi cynnwys 5 rhaglen radio i BBC Radio Cymru, megis "Bydded Hysbys" gyda'r cyflwynydd enwog Huw Stephens, ac ail lansio papur newydd Y Cymro fel golygydd. Mae Wyn yn falch o'r cyfle i fod yn Gadeirydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn mwynhau gwylio pêl-droed yn ei amser hamdden a chwarae 'Octopush, sef math o hoci tanddwr!
Meddai Wyn, "er bod yna nifer o sectorau ac amgylchiadau i boeni amdanynt yn sffêr Cymru a’r Gymraeg, mi fydd RhAG yn parhau i fod yn llais cryf a phrofiadol o ran ymgyrchu ar ran hawliau rhieni Cymru i ddewis addysg yn eu priod iaith."
Elin Mannion. Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfarwyddwr
Mae Elin yn gynhyrchydd llawrydd o Ben-y-bont ar Ogwr. Fe raddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth a dechrau ei gyrfa yn gweithio ar raglenni byw S4C. Erbyn hyn mae'n gweithio gyda sefydliadau i greu fideos – deunydd marchnata ac addysgiadol o’r safon uchaf posib. Mae Elin yn gadeirydd RhAG Pen-y-bont ac wrth ei bodd yn chwarae rhan fechan mewn mudiad sydd mor allweddol yn nhwf addysg Gymraeg.
Owain Rhys, Caerdydd
Cyfarwyddwr
Mae Owain yn gweithio i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Ymgysylltu a Gwirfoddoli. Yn wreiddiol o Landwrog ger Caernarfon, mae wedi byw yng Nghaerdydd ers bron i ddeugain mlynedd. Mae’n llywodrathwr yn Ysgol Gymraeg Nant Caerau, ac yn ymhyfrydu fod addysg Gymraeg yn ffynnu mewn ardaloedd megis Trelai a Chaerau. Mae’n Gadeirydd RhAG Caerdydd, ac yn falch o’r cyfle i fod yn aelod o’r Bwrdd er mwyn cefnogi darpariaeth addysg Gymraeg i bawb.
Lynne Davies, Casgwent
Ymgynghorydd
Cefndir Lynne yw biocemeg ac ymchwil feddygol. O ddydd i ddydd mae hi'n cydlynu rhwydwaith rhyngwladol o elusennau a mudiadau sy'n ariannu ymchwil canser. Mae'n byw yn Sir Fynwy, ac mae ganddi dri o blant sydd wedi elwa o gael addysg cyfrwng Cymraeg yn y De-ddwyrain. Mae hi wrth ei bodd yn cynrychioli RhAG yn Sir Fynwy i geisio hybu ac ehangu dwyieithrwydd yn y Sir.
Heini Gruffudd, Abertawe
Ymgynghorydd
Bu’n gweithio ym myd addysg ar hyd ei yrfa, yn athro, cyfieithydd a darlithydd. Paratôdd nifer helaeth o lyfrau dysgu Cymraeg i oedolion a gwnaeth ymchwil i’r defnydd o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc. Bu’n ymgyrchu o blaid sefydlu ysgolion Cymraeg yn Abertawe yn bennaf. Mae’n aelod o Fwrdd RhAG am mai RhAG yw’r prif fudiad sy’n ymgyrchu o blaid addysg Gymraeg.