$SCRIPT_NAME (string) = /index.php
$app_name (string) = callable
$sitename (string) = RHAG
$content_obj (object of type: Content) = {}
$content_id (string) = 59
$page_id (string) = 59
$page_alias (string) = archif-newyddion
$lang (string) = en_CY
$encoding (string) = utf-8
$lang_extra (string) =
$lang_parent (string) = cy
$lang_locale (string) = en_CY
$lang_dir (string) = ltr
$canonical (string) = https://rhag.cymru/news/5/3/Mynd-âr-Gymraeg-i-gymunedau-amlieithog-Caerdydd
$actionid (string) = cntnt01
$actionparams (array) = [
   .articleid (integer) = 5
   .returnid (string) = 59
   .junk (string) = Mynd-âr-Gymraeg-i-gymunedau-amlieithog-Caerdydd
   .action (string) = defaulturl
   .inline (string) =
   .module (string) = News
]
$returnid (string) = 59
$actionmodule (string) = News
$mod (object of type: News) = {}
$root_lang (string) = cy

Mynd â’r Gymraeg i gymunedau amlieithog Caerdydd

Mar 16, 2019

Hyrwyddo'r Gymraeg er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd fydd thema Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol RhAG a gynhelir Ddydd Sadwrn yma (16 Mawrth) yn Ysgol Hamadryad, Tre-biwt.

Hyrwyddo'r Gymraeg er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd fydd thema Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol RhAG a gynhelir Ddydd Sadwrn yma (16 Mawrth) yn Ysgol Hamadryad, Tre-biwt.

Bydd y mudiad hefyd yn lansio taflen i hyrwyddo addysg Gymraeg, sydd wedi ei chyfieithu i nifer o'r ieithoedd eraill a siaredir yn y brifddinas, sef Arabeg, Bengali, Cwrdeg, Farsi, Hindi, Pwnjabi, Pwyleg, Somali ac Urdu.

Mae'r daflen yn cyd-fynd â ffilm fer a lansiwyd y llynedd, a oedd yn brosiect ar y cyd rhwng RhAG, Ymgyrch TAG a chwmni Orchard ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n anelu i gyflwyno profiadau rhieni a disgyblion am addysg Gymraeg.

Mae cyfranogwyr y ffilm a'r daflen yn cynnwys rhieni Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae, disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a phennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ymweld â chartref newydd Ysgol Hamadryad, a agorwyd yn 2016 ond a symudodd i'w adeilad parhaol ym mis Ionawr eleni. Ysgol Hamadryad yw'r ysgol Gymraeg gyntaf i wasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt – dwy o ardaloedd mwyaf aml-ethnig ac amlddiwylliannol Cymru. Roedd sefydlu’r ysgol yn garreg filltir hanesyddol yn natblygiad addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn gam pwysig o ran sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael yn hwylus i bob cymuned yn y ddinas.

"Yn ganolog i’r ymgyrch wrth sefydlu'r ysgol, roedd y dyhead i weld plant o bob cefndir yn derbyn addysg Gymraeg. Ac felly mae'r taflenni hyn yn torri tir newydd o ran cyflwyno’r Gymraeg i gymunedau newydd a'i gosod mewn cyd-destun amlieithog fel sydd i'w gael yng Nghaerdydd. Gwyddom fod Catalwnia yn gwneud llawer i hyrwyddo’r Gatalaneg mewn ieithoedd eraill ac felly dyma ymdrech i ddechrau ar y gwaith pwysig hwnnw yma yng Nghymru.

"Ein prif neges felly yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n dewis byw yng Nghymru. Hyderwn y bydd y taflenni a'r ffilm fel pecyn cyfannol yn fodd o ddathlu hynny ac yn ein galluogi i rannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu'r teimlad o berthyn. Rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn fodd o ddeffro chwilfrydedd rhieni trwy bwysleisio bod dewis arall ar gael iddynt o ran addysg eu plant a bod addysg Gymraeg yn agored ac ar gael i bawb.

"Mae siwrnai gyffrous o’n blaenau wrth i unigolion a chymunedau newydd gofleidio’r Gymraeg am y tro cyntaf ac mae lledaenu'r neges fod addysg Gymraeg yn hygyrch i bob cymuned yn rhan annatod o’r daith honno.”
Diwedd

Nodiadau

Siaradwyr gwadd y Cyfarfod Blynyddol yw Rhian Carbis, Pennaeth Ysgol Hamadryad, Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a Mark Bowen, RhAG Bro Morgannwg.

Ffilm Welsh medium education: embrace it:

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.cymru