RhAG yn gofyn am gyfraniad Llywodraeth i gynnal Canolfannau Hwyrddyfodiaid
Dec 16, 2018
Mae RhAG – Rhieni dros Addysg Gymraeg – yn gofyn i’r Llywodraeth wneud cyfraniad arbennig i gynnal canolfannau hwyrddyfodiaid Gwynedd.
Mae RhAG – Rhieni dros Addysg Gymraeg – yn gofyn i’r Llywodraeth wneud cyfraniad arbennig i gynnal canolfannau hwyrddyfodiaid Gwynedd.
Mewn llythyr at Eluned Morgan, Y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, mae'r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar fyrder.
Mae Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar ei chanolfannau i hwyrddyfodiaid. Mae posibilrwydd y bydd rhaid i’r Sir gwtogi ar y rhain yn sgil anawsterau ariannol.
Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, “Gwynedd yw’r unig sir yng Nghymru lle mae disgwyl i bob plentyn cynradd fynd i ysgol Gymraeg leol. Mae dilyniant wedyn i’r sector uwchradd. Mae hyn yn golygu bod angen i bob mewnddyfodiad i’r sir dderbyn cwrs Cymraeg dwys cyn gallu ymdopi ag addysg yn yr ysgol leol.”
“Yn achos mewnddyfodiaid i wledydd Prydain, mae’r Llywodraeth yn cynnig gwersi iaith Saesneg am ddim. Dylai hyn ddigwydd i fewnddyfodiaid i Gymru, ac yn arbennig i Wynedd, gyda gwersi Cymraeg yn cael eu darparu am ddim. "
“Nid yw’n deg disgwyl i’r Sir wneud y gwaith ychwanegol yma heb dderbyn cymorth ariannol arbennig gan y Llywodraeth.”
“Rydyn ni’n galw ar Wynedd i gadw’r ddarpariaeth wych sydd ganddynt i fewnddyfodiaid, ond wrth wneud hyn rydyn ni’n apelio i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ariannol arbennig iddynt fel na fydd y gwaith pwysig yma o dan fygythiad.”
Diwedd
Nodiadau
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG ar 07912175403 neu ceri@rhag.cymru