Datblygwyr tai yn anwybyddu Addysg Gymraeg
Apr 16, 2018
MAE ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael eu hanwybyddu gan ddatblygwyr wrth iddynt farchnata ystadau tai newydd ledled y wlad.
Dyma yw canfyddiad mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wrth feirniadu cwmnïau adeiladu sy’n rhestru ysgolion cyfrwng Saesneg ar eu gwefannau ond heb unrhyw gyfeiriad at ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mae’r mudiad wedi adnabod methiant i wneud hynny gan gwmnïau Bellway, Redrow, Persimmon a Taylor Wimpey, sy’n hyrwyddo tai newydd yn RhCT, Bro Morgannwg, Torfaen a Chasnewydd ymysg ardaloedd eraill.
Meddai Mark Bowen ar ran RhAG Bro Morgannwg,
“Rydw i’n cofio ymweld â swyddfa Taylor Wimpey yn y Rhŵs i ofyn am fwy o fanylion am y datblygiad yno. Yn ôl eu taflen, does dim opsiwn ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg i deuluoedd, er gwaetha’r ffaith bod y datblygiad newydd yn nalgylch Ysgol Dewi Sant yn Llanilltud Fawr. Yn ôl gwefan Redrow Homes, y dewis cyfrwng Cymraeg agosaf i deuluoedd sy’n symud i fyw i ddatblygiad yn ardal y Bontfaen yw Caerdydd! Ac nid yw Bellway ychwaith yn ymwybodol o ddalgylch ysgolion cyfrwng Cymraeg i deuluoedd sy’n symud i dai newydd yn ardal Gwenfô a Chroes Cwrlwys.”
Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,
“Does dim modd cyfiawnhau difaterwch y cwmnïau hyn at y Gymraeg. Nid yw’n dderbyniol rhoi camargaff mai addysg cyfrwng Saesneg yw’r unig ddewis sydd ar gael i deuluoedd sy’n ymgartrefu yn yr ystadau tai newydd hyn, Mae’n anorfod bod canran uchel yn mewnfudo i Gymru, a mwy na thebyg, yn gwbl anymwybodol bod ganddynt ddewis arall o ran addysg eu plant. Mae’r cwmniau dan sylw yn esgeuluso eu cyfrifoldebau ac yn amlwg yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol.
“Mae hyn yn codi cwestiynau mawr o ran pa gyfarwyddyd y mae llywodraeth leol a chanol yn ei roi i ddatblygwyr o ran hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’r Cynlluniau Datblygu Lleol. Pan gaiff addysg ei hystyried yng nghyd-destun cynllunio ystadau tai newydd, mae angen i awdurdodau lleol roi ystyriaethau ieithyddol yn ganolog yn y cynlluniau hynny. Dylent sicrhau bod datblygu trefol yn rhoi cyfle i gynyddu addysg Gymraeg.
“Rydym yn galw ar y cwmnïau hyn felly i edrych yn fanwl ar eu polisïau mewn perthynas â’r Gymraeg ac i ddechrau hynny trwy nodi ysgolion cyfrwng Cymraeg ar eu gwefannau. Wrth gynllunio at y miliwn, mae angen i’r Llywodraeth hefyd gyflwyno canllawiau sy’n caniatáu i rieni sy’n ymgartrefu yn yr ardaloedd hyn ddewis addysg Gymraeg yn hwylus.”