Y naw sir sy’n siomi
Apr 16, 2018
Mae cwymp wedi bod yng nghanran y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg mewn naw sir yng Nghymru - dyna honiad yr ystadegydd Hywel Jones
Mae cwymp wedi bod yng nghanran y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg mewn naw sir yng Nghymru - dyna honiad yr ystadegydd Hywel Jones.
Mae gwefan Hywel Jones - Statiaith - yn nodi’r cwymp yng nghanrannau’r disgyblion 7 oed sy’n derbyn addysg Gymraeg, rhwng 2012 a 2017. Dros Gymru gyfan bu twf o 22% i 22.5%, ond methwyd â chyrraedd targed y Llywodraeth o 25%.
Yr hyn sy’n bryderus yw bod gostyngiad wedi bod yn y ganran mewn naw sir yn ystod y cyfnod hwnnw, sef: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Blaenau Gwent.
Bu’r twf mwyaf cyson yn Abertawe a Chaerdydd, gyda thwf hefyd ym Mro Morgannwg, Wrecsam a Thorfaen.
Nid yw cwymp yn y ganran, fodd bynnag, bob amser yn golygu bod llai o ddisgyblion yn derbyn addysg Gymraeg ym mhob sir. Mae nifer y disgyblion 5 - 10 oed mewn ysgolion cynradd yng Nghymru wedi cynyddu’n gyson ers 2011, o ryw 195,00 i 210,437 yn Ionawr 2017 (Canlyniadau Cyfrifiad Ysgolion, 2017, Llywodraeth Cymru). Yn cydredeg â hyn bu cynnydd yn nifer y disgyblion mewn ysgolion Cymraeg yn gyffredinol, gan gyrraedd 105,845 yn 2017 (104,959 yn 2016).
Mae’r twf mewn disgyblion i’w briodoli i gynnydd yn y gyfradd genedigaethau yn bennaf, a hefyd peth mewnfudo.
Yr hyn sy’n bryderus yw nad yw llawer o awdurdodau lleol wedi paratoi mewn da bryd ar gyfer y twf yn y boblogaeth. Mae ysgolion Saesneg, mewn sawl man, yn gorlenwi, fel y bu’n digwydd yn gyson gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg. Canlyniad hyn yw nad oes cyflenwad o hen adeiladau ar gael ar gyfer eu trosi’n ysgolion Gymraeg.
Medd Wyn Williams, cadeirydd RhAG, “Mae’n glir bod angen cynllunio brys i gynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg. Dim ond un ysgol Gymraeg sydd ym Mlaenau Gwent, er enghraifft. Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid rhoi rhaglen o dwf cyflym ar waith, ond does dim arwydd ar hyn o bryd bod hyn i ddigwydd.”
Ychwanegodd Wynn Williams, “Rydyn ni’n deall bod blaenoriaeth i ysgolion Cymraeg yn rownd nesaf cyllido ysgolion, ond fydd hyn ddim yn rhoi’r twf cyflym angenrheidiol. Fydd dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg ddim yn llwyddiannus chwaith, heb fod y Llywodraeth yn fodlon buddsoddi’n helaeth mewn hyfforddiant.”
“Mae angen i ni beidio â thwyllo’n hunain y bydd geiriau teg y Llywodraeth am y Gymraeg - a diolch amdanynt - yn dwyn ffrwyth heb fod gweithredu radical yn digwydd ar lawr gwlad.”