$SCRIPT_NAME (string) = /index.php
$app_name (string) = callable
$sitename (string) = RHAG
$content_obj (object of type: Content) = {}
$content_id (string) = 28
$page_id (string) = 28
$page_alias (string) = news
$lang (string) = en_US
$encoding (string) = utf-8
$lang_extra (string) =
$lang_parent (string) = en
$lang_locale (string) = en_US
$lang_dir (string) = ltr
$canonical (string) = https://rhag.cymru/news/25/3/Cam-mawr-ymlaen-i-Addysg-Gymraeg-yng-Nghasnewydd
$actionid (string) = cntnt01
$actionparams (array) = [
   .articleid (integer) = 25
   .returnid (string) = 28
   .junk (string) = Cam-mawr-ymlaen-i-Addysg-Gymraeg-yng-Nghasnewydd
   .action (string) = defaulturl
   .inline (string) =
   .module (string) = News
]
$returnid (string) = 28
$actionmodule (string) = News
$mod (object of type: News) = {}
$root_lang (string) = en

Cam mawr ymlaen i Addysg Gymraeg yng Nghasnewydd

Nov 5, 2019

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn croesawu datganiad Cyngor Dinas Casnewydd heddiw sy’n rhoi manylion pellach am gynlluniau am bedwaredd Ysgol Gymraeg y ddinas...

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn croesawu datganiad Cyngor Dinas Casnewydd heddiw sy’n rhoi manylion pellach am gynlluniau am bedwaredd Ysgol Gymraeg y ddinas a fydd yn cychwyn mewn dosbarth dechreuol ym Medi 2020 yn ardal Caerllion ac yna’n symud i safle parhaol yn ardal Pillgwenlli ym Medi 2022.

Bydd hyn cynyddu’r ddarpariaeth ymhellach yn ne orllewin y ddinas - ardal sydd wedi dangos galw cyson dros y blynyddoedd. Bydd hi’n ysgol ddwy ffrwd.

Mae cynnydd cyson wedi digwydd yng Nghasnewydd dros y ddegawd ddiwethaf gyda dwy ysgol Gymraeg newydd yn agor. Bydd y bedwaredd yn cynyddu’r ddarpariaeth ymhellach ac yn
cynnig lleoliad agosach i rieni'r ardal hon sydd i’w groesawu.

Dywedodd Elin Maher, cydlynydd grŵp Rhieni Dros Addysg Gymraeg Casnewydd,

“Mae hyn yn newyddion ardderchog ac rydym am longyfarch Cyngor Dinas Casnewydd am gynllun hyderus sydd yn cynnig cyfleoedd pellach i blant Casnewydd gael o leiaf dwy iaith o’r cychwyn.

"Mae’n amlwg fod ymgyrchoedd hyrwyddo diweddar gan nifer o bartneriaid cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â chynlluniau cyffrous cyn-ysgol i gefnogi’r datblygiad hwn,
yn dangos cynllunio cydlynus ac yn dwyn ffrwyth. Edrychwn ymlaen at gefnogi’r gwaith ymhellach wrth i’r cyfnod ymgynghori gychwyn ac i weld drysau’r ysgol newydd hon yn agor yn 2020.”

Diwedd